Curad Cynorthwyol

Cafodd Jean ei geni yng Nghefneithin ond fe symudodd i Borthyrhyd pan oedd yn chwech mlwydd oed ac yna i Landdarog. Bu yn ddisgybl yn Ysgol Wirfoddol Llanddarog ac yna symudodd ymlaen i Ysgol Ramadeg y Gwendraeth. Ar ol astudio Cymraeg, Hanes ag Addysg Grefyddol yn y chweched dosbarth penderfynnodd fynd i Goleg y Drindod, Caerfyrddin i gael ei hyfforddi fel athrawes. Ar ol gadael y coleg bu yn athrawes yn Ysgol Abercerdin yng Ngilfach Goch am ddwy flynedd, cyn dychwelyd i arbennigo yn ei phwnc Addysg Grefyddol, a dod yn athrawes i Ysgol Uwchradd Ystrad Tywi Caerfyrddin. Yn 1978 symudodd i Ysgol y Frenhines Elisabeth Cambria, Caerfyrddin, a gwnaeth ymddeol fel Prifathro Cynorthwyol yn 2005. Yn 2002 enillodd wobr Athrawes y Flwyddyn ac yn 2003 fe’i anrhydeddwyd gyda’r MBE am ei chyfraniad i Addysg a’r Gymuned.

Fe wnaeth ymddeol o fod yn ddarlithydd rhan amser ym Mhrifysgol y Drindod Dew Sant, Caerfyrddin a Swyddog Ysgolion a Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Esgobaeth Ty Dewi yn 2018.  Roedd yn Ddarllenydd yn yr Eglwys yn Nghymru o 1982-202.  Cafodd ei ordeinio yn Ddiacon yn 2020 a mae yn Gurad Cynorthwyol yn Eglwys Llanddarog.