Digwyddiadau Bywyd

BEDYDD
Rydym bob amser yn falch iawn i ddathlu bedydd babanod, plant ac oedolion a’u gwneud yn aelodau o Grist a’i Eglwys. Mae’n well gennym i fedyddio yn Ewcharist y Plwyf lle gall y cyfan o deulu Duw groesawu y rhai sydd newydd eu bedyddio i gymdeithas yr eglwys. Nid oes tâl am fedydd – mae’n rhodd rhad o ras Duw – cysylltwch â’r ficer i drefnu.

PRIODASAU

Mae Eglwys y Plwyf, Sant Twrog wedi’i thrwyddedu ar gyfer priodasau ac rydym yn falch i’ch helpu i ddathlu eich diwrnod mawr. Os ydych am briodi yn yr eglwys, mae’r gyfraith yn mynnu eich bod yn byw yn y plwyf. Yn wahanol i fedydd, mae ffioedd statudol ar gyfer priodas. Fe’ch cynghorir i archebu’r eglwys cyn gynted ag y byddwch wedi penderfynu dyddiad eich priodas.

ANGLADDAU
Mae’r Eglwys bob amser wedi bod ochr yn ochr â chymunedau ac unigolion ar adegau anodd. Mae’n rhan o’n gweinidogaeth. Bydd y clerigwyr a’r cyfarwyddwr angladdau yn helpu cymaint ag y gallant gydag angladd. Mae darpariaeth ar gyfer claddedigaethau yn St Twrog.

FFIOEDD STATUDOL CYMRU: I gael gwybodaeth am yr uchod neu unrhyw un o’r gwasanaethau, cysylltwch â’r ficer, Canon Dewi Roberts, 01267 275556, a fydd yn esbonio i chi beth yw’r cynnwys a sut i symud ymlaen.