“Onid oedd yn rhaid i’r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i’w ogoniant?” Luc 24:26
Yn ei gariad diderfyn mae Duw wedi gweithredu mewn ffyrdd na allem fod wedi dychmygu. Roedd dioddefaint y Meseia yn angenrheidiol. Dioddefaint oedd y llwybr i ogoniant.
Dywed y Pab Ffransis:
“Trwy ddewis peidio â gwahanu ei ogoniant oddi wrth ei farwolaeth ar y groes, mae Iesu’n rhyddhau ei ddisgyblion a’r Eglwys fel ei gilydd oddi wrth “ffurfiau gwag o orfoledd” sy’n ddi-rym o gariad, gwasanaeth, tosturi, ac, yn y pen draw, pobl.”
Rhannwn yn nioddefaint a gogoniant Crist trwy ein gweithredoedd o gariad aberthol a thosturi, trwy wasanaeth anhunanol i’n gilydd – a enghreifftiwyd yn ymroddiad y nyrsys, y meddygon a’r staff cynorthwol yn yr ysbytai, yn ogystal a’r holl ofalwyr yn ein cymuned: pobl sy’n rhoi eu hunain yn llwyr mewn amgylchiadau eithafol, gan wybod eu bod nhw’n peryglu eu bywydau eu hunain, yn ogystal a bywydau eu hanwyliaid, er mwyn achub eraill.
Ni allwn fynegi ein diolchgarwch yn ddigonol am ofal a dewrder y rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen yn ein hysbytai.
Y Pasg hwn boed i ni ddiolch i bawb sy’n gweithio mor ddiflino ac aberthol i achub bywydau.
A boed inni fendithio Duw,ffynhonnell pob tosturi dynol,
a diolch am aberth Crist dros fywyd y byd, ac am y gobaith bywiol trwy ei atgyfodiad, hyd yn oed yng nghanol dioddefaint a marwolaeth.
Boed i chwi brofi Pasg hapus a bendithiol.
Canon Dewi