Gwneud ein rhan dros y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol

Dros gyfnod o dair blynedd mae aelodau Eglwys Llanddarog wedi gwneud eu rhan dros y Gwasanaeth Iechyd. Gwnaeth y grŵp Gwau a Chlonc hetiau a gwasgodau bach i fabanod cynamserol ac yn ddiweddar ar ol darllen am apȇl nyrs o swydd Caergrawnt,gweu llewysau i fabanod bach orchuddio y canwla.

Yn y dyddiau anodd yma mae’r aelodau wedi tynnu at eu gilydd i helpu eto. Mae un o’r aelodau yn gwneud “scrubs” i feddygfa lleol, eraill yn gwneud bagiau “scrubs”, rhywun arall masgiau. Rhaid i’r “scrubs” gael ei gwneud mewn cotwm neu cotwm poly, i fod yn addas i allu cael eu gwisgo yn ddyddiol.Tipyn o waith felly yn mynd ymlaen a’r cyfan yn gwneud gwahaniaeth i’r rhai a fydd yn ei derbyn. Cofiwn eiriau ein Nawdd Sant Dewi “Byddwch lawen, cedwch eich ffydd a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi.”