Y Fynwent

Y Fynwent

Mae’r fynwent gron wedi ei hamgylchynu gan wal gerrig, sy’n cynnwys yr hen ffald. Mae siâp y fynwent yn dangos ei hynafiaeth, achos credir y byddai tir caeedig crwn yn ei gwneud yn fwy anodd i’r diafol i fynd i mewn. Defnyddiwyd yr hen ffald ar gyfer dal stoc strae, a byddent ond yn cael eu rhyddhau ar ôl i’r perchennog dalu dirwy.

Mae yna nifer o goed ywen hynafol, ac mae’r un gyferbyn â drws yr Eglwys yn o leiaf 200 mlwydd oed. Roedd y Celtiaid yn meddwl bod yr ywen yn cynrychioli anfarwoldeb ac yn gartref i ysbrydion. Rhoddodd loches i addolwyr ac, achos ei bod yn wenwynig, roedd ffermwyr yn cael eu rhwystro rhag gadael i’w stoc dresmasu yn y fynwent. Ar bob ochr i Borth y Fynwent gwelir Holm, neu goed derw bytholwyrdd (Quercus Ilex), nad ydynt yn frodorol; credir eu bod yn 60 i 80 mlwydd oed, wedi’u cyflwyno o bosibl gan y teulu Puxley. Maent yn colli eu dail yn y gwanwyn ac yn tyfu rhai newydd ym mis Mehefin. Mae’r coed eraill yn cynnwys Castanwydden, Pisgwydden a Bocs.
Mae mynwent newydd wedi cael ei chysegru tu ôl i’r Eglwys gan nad oes mwy o le yn yr hen un.

Cerrig Beddau

Roedd Iolo Morgannwg yn saer maen wrth ei alwedigaeth ac ar ôl ei ymweliad i Landdarog yn 1796 dywedodd bod gan y fynwent ‘lawer o farmor du rhagorol, a geir yn y gymdogaeth’. Y garreg fedd hynaf sy’n weladwy yw un John Arthur yn 1765. Mae’n wynebu gorllewin, yn wahanol i’r rhan fwyaf sy’n wynebu’r dwyrain. Mae Arthur yn hen gyfenw Cymraeg ac yn ymddangos yn aml yng nghofnodion Llanddarog. Mae’n golygu person dewr.

Yn ddiweddar, mae plwyfolion wedi bod yn brysur yn nodi pob bedd. Mae arolwg y Fynwent bellach wedi ei gwblhau, felly os hoffech ddod o hyd i berthynas neu ffrind arbennig a allai fod wedi cael ei gladdu yn y fynwent, cysylltwch â Rheolwr Arolwg y Fynwent ar ein tudalen Cysylltu â Ni uchod.