Gŵyl Angylion

Mae llwyddiant unrhyw ddigwyddiad yn ddibynnol ar y gefnogaeth sydd wrth y gymuned, y rhai sy’n helpu i baratoi, y rhai sy’n helpu gyda’r digwyddiad, y rhai sy’n helpu i glirio i fyny, a’r rhai sy’n ymuno i gefnogi. Felly diolch i bawb a gefnogodd Gŵyl yr Angylion ym mis Rhagfyr. Fe ddechreuodd yr ŵyl gyda gwasanaeth a oedd wedi ei gefnogi gyda aelodau a ffrindiau. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Ficer, Canon Dewi Roberts. Gwaneth yr Hybarch Dorrien Davies Archddiacon Caerfyrddin fendithio yr holl arddangosfeydd, canodd cȏr Ysgol Llanddarog, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru ac fe agorwyd yr ŵyl gan Mr Brian Jones, Castell Howell.