EI MAWRHYDI BRENHINES ELIZABETH II
Derbyniwyd y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi, Y Frenhines gyda thristwch mawr. Fel y rhan fwyaf o’r boblogaeth, rydym wedi byw ein bywydau o fewn ei theyrnasiad, a heb gael unrhyw brofiad o frenhines arall yn y Deyrnas Unedig.
Roedd gwasanaeth ac ymroddiad y Frenhines i’r Genedl a’r Gymanwlad yn rhyfeddol. Ysbrydolodd ni trwy amseroedd da a drwg, trwy ddathliadau ac ergydion ym mywyd y Genedl.
Rydyn ni’n arbennig o ddiolchgar i Dduw am dystiolaeth Gristnogol Ei Mawrhydi. Adeg y Nadolig, ni fethodd ei darllediadau i’r Genedl sôn am ei ffydd bersonol yng Nghrist. Cymeradwyodd gariad at Dduw a chymydog dro ar ôl tro. Bydd ei bywyd o wasanaeth a defosiwn bob amser yn esiampl ac yn galondid i ni i gyd.
Mae ein gweddïau gyda’r teulu Brenhinol ar yr adeg hon wrth iddynt hiraethu am eu hannwyl Frenhines.
Fanc Bwyd Caerfyrddin: Rydym yn gwahodd cyfraniadau i Fanc Bwyd Caerfyrddin. Mae yn arferol i ni ddod a bwyd a’i rhoi wrth y Bedyddfan, neu rhoi arian at yr achos a’i rhoi i’r Wardeniaid. Gobeithir y bydd y rhai sydd am gyfranu at y Banc Bwyd yn barod i wneud hynny ar lein, neu rhoi cyfraniadau i Jean a Huw 275222 neu Margaret a Peter 275479. Yn y dyddiau anodd yma mae yn fwy pwysig nag erioed I gefnogi teuluoedd sydd angen ein help.
Croeso i St Twrog, Eglwys Plwyf Llanddarog.
Saif yr eglwys ar y bryn gyda’i thwr pigfain yn amlwg i bawb sy’n teithio ar y heol brysur, yr A48, rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin, a nepell o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Llanddarog, enwog iawn ydwyd – yn uchder
Dy glochdy’th neillduwyd,
Caer hirsyth yn creu arswyd,
O Sir Gar i’r sêr a gwyd
(Anhysbys)
Yn y fangre hon mae addoliad a gweddi wedi eu hoffrymu a chariad Duw yng Nghrist Iesu wedi ei gyhoeddi ers dyddiau y Brenin Hywel Dda, yn y ddegfed ganrif (Credir bod y Darog, yn Llanddarog yn un ô’i swyddogion) ond ymhellach yn ol na hynny I’r chweched ganrif, Oes y Seintiau, pan y bu i Twrog, un o’r seintiau Celtaidd sefydlu ei gymuned – Y Llan – ar yr ucheldir rhwng Cwm Gwendraeth a Dyffryn Tywi.
Mae’r Addoliad a’r weddi, y tystio, y gwasanaethu a’r gyfeillach yn parhau hyd heddiw ac yn foddion gras i’r gynulleidfa ffyddlon.
Slawer dydd roedd yna dollen gyswllt rhwng y plwyf a’r diwydiant glo yng Nghwm Gwendraeth ond erbyn hyn mae’n bywyd a’n haddoliad yn adlewyrchu cymeriad gwledig ein plwyf.
Gwahoddwn chi’n dwymgalon I ymweld â ni yma yn St Twrog. Mae yna ddau wasanaeth bob Sul, un yn yr iaith Gymraeg a’r llall yn y Saesneg. Rydyn ni’n darparu ar gyfer pawb.
_____________________
Eglwys St Twrog yw Eglwys Plwyf Llanddarog ond ers 1966 ymunwyd ni â phlwyf cyfagos Llanarthne. Mae’r plwyf Llanarthne a Llanddarog yn Esgobaeth Tyddewi.