Undeb y Mamau

Undeb y Mamau Chwefror i Ebrill

Undeb y Mamau Tachwedd 2019 i Ionawr 2020

Roeddem yn falch iawn i ddathlu ein canmlwyddiant yn 2008 ac fel rhan o’n dathliadau trefnom Ŵyl Flodau ar y thema “Trwy’r Ganrif”.

Yng Nghapel Puxley mae ffenest i goffáu Mrs Catherine Lavellin Puxley, Llethr Llestri, sef sylfaenydd Undeb y Mamau yn Llanddarog yn 1908. Daeth y teulu Puxley o Gastell Dunboy yn ardal Cork; nhw oedd y tirfeddianwyr lleol, a dim ond nhw oedd yn eistedd yn y capel. Mae’r ffigur yn y ffenest yn bortread o Mrs Puxley yn 18 mlwydd oed ac yn darlunio St Catherine yn dal olwyn.

Fel rhan o’n dathliadau cawsom wasanaeth o ddiolchgarwch, gan ein bod mor ddyledus i’r bobl hynny a osododd y cerrig sylfaen hynny mor gadarn, fel y gallwn fwynhau holl fanteision mudiad Undeb y Mamau. Fel rhan o’n dathliadau buom yn annog pob aelod i chwilio am aelodau newydd ac yn sicr fe wnaethpwyd hynny.

Ar hyn o bryd mae gennym 32 o aelodau ffyddlon ac rydym yn cyfarfod yn yr Eglwys ar yr ail ddydd Iau o bob mis am 7.30pm. Mae gennym raglen amrywiol o siaradwyr, ymweliadau, nosweithiau tawel, gwasanaethau arbennig a digwyddiadau cymdeithasol, felly rhywbeth at ddant pawb. Rydym yn falch o dderbyn aelodau newydd, ac os oes diddordeb gennych cysylltwch â Mrs Jean Voyle Williams ar 01267 275222.