Bwrdd Y Perigloriaid
Ar y chwith gwelir a bwrdd yn rhestru enwau’r offeiriaid fu yma (rhoddedig gan John a Doreen Rees). Mae’n ddiddorol nodi bod yr eglwys o dan ofal curadiaid o 1720 i 1873. Yn 1966 ymunodd y Plwyf a Phlwyf cyfagos Llanarthne. Ers 2004 offeiriad mewn gofal sydd yma. Fe enillodd y Parch Emlyn Lewis (1960-1964) y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1962 am ei bryddest “Y Cwmwl” o dan ffugenw ‘Yr Hydd Gwyn’ (y dafarn leol a welai o ffenest ei ystafell wely bob bore). Yn 1970 cyhoeddodd nofel “Llan-y-cnwc” am un o blwyfi anghysbell Cymru.