Addoliad yn St Twrog

Addoli Duw yw prif gynheiliad ein bywyd fel cynulleidfa sy’n cyfarfod yn Eglwys Sant Twrog. Rydym yn credu mae dyma’r gweithgaredd mwyaf pwysig yr ydym yn mynychu, ac o’r addoli yma mae’n gwasanaeth, ein cymrodoriaeth a’n allgymorth yn llifo. Fel arfer mae dau wasanaeth yn cael eu cynnal bob dydd Sul, yn y bore ac yn gynnar gyda’r nos, un yn y Gymraeg a’r llall yn Saesneg. Gweler isod y rota misol o wasanaethau ar y Sul.

Mae’r Cymun Bendigaid, sef gweithred addoli ganolog yr Eglwys, yn cael ei ddathlu bob dydd Sul mewn un iaith neu’r llall. Y litwrgi a ddefnyddir yw Trefn Gweinyddiad y Cymun Bendigaid yr Eglwys yng Nghymru 2004. Rydym yn croesawu rhai sy’n derbyn cymun mewn eglwysi o enwadau eraill i rannu gyda ni yn y Cymun Bendigaid. Ar gyfer Boreol Weddi a Gosber, rydym yn dilyn y patrwm mwy traddodiadol yn Llyfr Gweddi Gyffredin yr Eglwys yng Nghymru 1984. Dwedir Boreol Weddi (yn cael ei ddilyn gan gyfnod o gymdeithasu) fel arfer yn yr eglwys ar fore Mawrth, yn dilyn gwasanaeth wythnosol yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Llanddarog dan arweiniad y Ficer.

Pob trydydd dydd Sul am 2.30yp, cynhelir gwasanaeth mwy anffurfiol yn ‘Ty Principality’, yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol. Gallwch ddod i mewn trwy’r fynedfa gwasanaethau i’r tu cefn i’r Ardd. Mae croeso yn cael ei ymestyn i bawb i ymuno â ni yn y gwasanaeth hwn, ac mae ein diolch i swyddogion yr Ardd am eu cydweithrediad.

Mae Bedyddiadau, Priodasau a Angladdau y cael eu dathlu, a cynnigir paratoi ar gyfer Conffyrmasiwn. Dylai trefniadau ar gyfer hyn ac ar gyfer gwasanaethau eraill yr Eglwys, gan gynnwys gweinidogaeth ar adegau o salwch, gael eu gwneud gyda’r Ficer. Rydym yn credu ein bod yn cynnig y cyfan o’n bywydau mewn addoliad i Dduw, yn cynnwys ein gobeithion a’n hofnau, ein llawenydd a’n gofidiau. Cymerir ofal mawr wrth baratoi addoli yn Eglwys Sant Twrog fel y gallwn gynnig ein gorau i Dduw, Tad, Mab ac Ysbryd Glân – ein Creawdwr, Gwaredwr a’n Sancteiddiwr.

Gwasanaethau Dydd Sul yn Eglwys y Plwyf

Dydd Sul 1

09.30 Cymun Bendigaid (Cymraeg)
17.00 Hwyrol Weddi (Saesneg)

Dydd Sul 2

11.00 Boreol Weddi (Cymraeg)
17.00 Cymun Bendigaid (Saesneg)

Dydd Sul 3

09.30 Cymun Bendigaid (Saesneg)

14.30 Gwasanaeth yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol (Dwyieithog)

Dydd Sul 4

09.30 Cymun Bendigaid (Cymraeg)

11.00 Boreol Weddi (Saesneg)

Dydd Sul 5

10.00 Gwasanaeth Dwyieithog, am yn ail gydag Eglwys Dewi Sant Llanarthne, i’w ddilyn gan luniaeth.