Annwyl Gyfeillion
“Rhaid i’r ffydd fynegi ei hun mewn elusen ac mewn cydlyniad â’n gilydd, yr hyn yw ffurf elusen sifil.” Claudio Hummes
Mae y pandemig coronafirws yn rhoi cyfle inni ddysgu byw yn fwy cefnogol tuag at ein gilydd. Mae’n rhoi cyfle euraidd i ni fyw mewn cydlyniad a chyd-gysylltiad â’n gilydd hyd yn oed wrth i ni fod ar bellter corfforol o’n gilydd.
Yn wyneb yr argyfwng boed inni fod yn fwy cymdogol nag erioed o’r blaen. Yn y gaeaf yn ystod yr amseroedd prin y mae’n bwrw eira, mae cymdogion nad oeddent prin yn siarad â’i gilydd mewn amseroedd arferol, yn cael sgwrs ar stepen y drws ac yn cynnig mynd i nôl eitemau o siopa i’w cymydog sy’n teimlo yn ddiymgeledd.
Gallwn yn sicr gyfathrebu â’n gilydd trwy’r argyfwng coronafirws hwn. Gadewch inni siarad â’n gilydd ar y ffôn, a pharatoi ein hunain i fod o wasanaeth ymarferol.
Yn aml gall argyfwng o’r math yma ddod â’r gorau allan ohonom. Rwy’n aml yn meddwl bod amseroedd o argyfwng yn angenrheidiol i’n dysgu ni i gydlynnu â’n gilydd, ac i garu a gofalu am ein gilydd.
Iesu yw’r enghraifft orau o gydlynnu brawdol a gwasanaeth cariadlawn. Dysgwn oddi wrth ei esiampl. “Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi. Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion. ”(Ioan 15: 12-13).
Cymerodd Iesu ein dioddefaint, ei ddwyn, ac ymsymud drwyddo i atgyfodiad a bywyd newydd.
Gallwn ninnau hefyd ddilyn y llwybr hwn, gan ymuno’n weithredol ag ymlyniad cariadus Duw â holl ddioddefaint y byd. Nid yw Iesu’n gofyn inni o angenrheidrwydd i’w addoli. Beth mae’n gofyn yn fwy na dim yw inni ei ddilyn trwy ymddiried a chofleidio’r siwrne brawychus hon gyda’n gilydd.
Pob bendith yng Nghrist
Canon Dewi