Annwyl Gyfeillion
Yn dilyn cyfarwyddyd ddiweddaraf yr Esgob, bydd yn rhaid i Eglwys Llanddarog aros ar gau nes bydd yr argyfwng presennol drosodd. Roeddem wedi gobeithio y gallem gadw’r Eglwys ar agor ar gyfer gweddi a myfyrdod tawel. Ond nid yw hyn yn bosibl mwyach.
Fe’ch cadwaf yn fy meddyliau a’m gweddïau. Boed i ni wybod tangnefedd ysbryd a gorffwys o’n mhewn hyd yn oed yng nghanol yr ansicrwydd a’r ofn sydd o’n cwmpas.
“Dychwel, O fy enaid, i’th orffwysfa; canys yr ARGLWYDD fu dda wrthyt.”
Salm 116: 7
“Arglwydd, gad im dawel orffwys
Dan gysgodau’r palmwydd clyd
Lle yr eistedd pererinion
Ar eu ffordd i’r nefol fyd,”
William Ambrose (Emrys) 1813-1873
Pob Bendith yng Nghrist
Canon Dewi