Apel oddi wrth Plant Dewi

29ain Ebrill 2020
Annwyl bawb,
Rydym yn gobeithio eich bod yn cadw’n iach ac yn ddiogel yn ystod y cyfnod yma.
A fyddai modd i chi rannu gyda’ch cysylltiadau, yn enwedig y rhai byddai fel arfer yn rhoi i Blant Dewi, y neges islaw am ein her os gwelwch yn dda.
Os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch, plis cysylltwch drwy ebost – catrin@plantdewi.co.uk.
Diolch a phob hwyl,
Catrin Evans
Rheolwr
Plant Dewi


HER PLANT DEWI ~ PLANT DEWI CHALLENGE
Mae tîm Plant Dewi mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rydym wedi ei cael yn ddiweddar, ond nid yw’r cyfnod anodd hwn drosodd eto, ac ni fydd am dipyn o amser.
Dros y misoedd nesaf, fel elusen, ni fyddwn yn gallu parhau â’n dulliau arferol o godi arian, bydd ein siop elusennol yn aros ar gau am tipyn mwy o amser a byddwn yn colli incwm hanfodol arall. Mae’r prosiectau yn ymestyn allan i gannoedd o deuluoedd pob mis, ac ers i ni orfod cau ein grwpiau a’n canolfannau, mae ein staff ymroddgar dal mewn cysylltiad gyda’r teuluoedd yma.
Mae staff Plant Dewi yn mynd i fod yn ymgymryd â’r her 2.6, gan ddechrau ar y 1af o Fai, a byddwn yn gwneud amrywiaeth o bethau am 26 diwrnod. Byddwn yn rhannu’r rhain gyda chi dros yr wythnos nesaf ac rydym yn gobeithio y gallwn godi rhywfaint o arian sydd wir ei angen i gefnogi’r sefydliad.
Yn ogystal â hyn, bydd rhai o staff Plant Dewi, ar y cyd, yn cerdded y pellter o’r swyddfa yng Nghaerfyrddin i Eglwys Gadeiriol Tyddewi, sydd yn 46 milltir, pob wythnos ym mis Mai. Unwaith eto, rydym yn gwneud hyn am achos da iawn a byddwn yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i’n cadw’n frwdfrydig.
Dyma linc i ein tudalen ‘Just Giving’ – diolch yn fawr am eich cefnogaeth. Mae eu angen arnom nawr, mwy nag erioed.
https://www.justgiving.com/fundraising/plantdewi2020?newPage=True